Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 16 beibl.net 2015 (BNET)

Ahas, brenin Jwda

1. Pan oedd Pecach fab Remaleia wedi bod yn frenin ar Israel am un deg saith o flynyddoedd daeth Ahas fab Jotham yn frenin ar Jwda.

2. Roedd Ahas yn ddau ddeg mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD ei Dduw fel roedd y Brenin Dafydd wedi gwneud.

3. Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Ac yn waeth fyth, dyma fe'n llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.

4. Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.

5. Yna dyma Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, brenin Israel, yn dod i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Dyma nhw'n gwarchae ar Ahas, ond roedden nhw'n methu ei goncro.

6. (Tua'r adeg yna hefyd llwyddodd Resin, brenin Syria, i ennill dinas Elat yn ôl i Syria. Gyrrodd bobl Jwda allan o Elat, a daeth pobl o Edom yn ôl i fyw yno. Maen nhw'n dal yno hyd heddiw.)

7. Anfonodd Ahas y neges yma at Tiglath-pileser, brenin Asyria: “Dy was di ydw i, a dw i'n dibynnu arnat ti. Mae brenin Syria a brenin Israel yn ymosod arna i. Plîs wnei di ddod i'm hachub i.”

8. Roedd Ahas hefyd wedi cymryd yr aur a'r arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas, a'i anfon yn dâl i frenin Asyria.

9. A dyma frenin Asyria yn cytuno ac yn anfon ei fyddin i ymosod ar Syria. Dyma nhw'n concro dinas Damascus, cymryd y bobl yno yn gaethion i Cir a lladd y brenin Resin.

10. Pan aeth y Brenin Ahas i gyfarfod Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn Damascus, dyma fe'n gweld yr allor oedd yno. Anfonodd fodel o'r allor, ei chynllun a'r holl fanylion am sut roedd wedi cael ei gwneud, at Wreia yr offeiriad.

11. A dyma Wreia yr offeiriad yn gwneud copi o'r allor oedd yn union fel y manylion anfonodd y brenin Ahas iddo o Damascus. Roedd yr allor yn barod erbyn i'r brenin Ahas gyrraedd yn ôl o Damascus.

12. Pan aeth y brenin i weld yr allor dyma fe'n mynd i fyny ati

13. a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm o rawn arni. Tywalltodd offrwm o ddiod arni, a sblasio gwaed yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD arni.

14. Yna dyma fe'n symud yr Allor Bres oedd yn arfer bod o flaen yr ARGLWYDD. Symudodd hi o du blaen y deml (roedd hi rhwng yr allor newydd a'r cysegr,) a'i gosod ar yr ochr, i'r gogledd o'r allor newydd.

15. Yna dyma'r brenin Ahas yn dweud wrth Wreia yr offeiriad: “Yr allor fawr sydd i gael ei defnyddio o hyn ymlaen. Defnyddiwch hi i losgi offrwm y bore arni, a'r offrwm o rawn gyda'r nos, yr offrymau brenhinol i gyd, a'r offrymau dros y bobl gyffredin – offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn ac offrymau o ddiod. Arni hi hefyd dych chi i sblasio gwaed yr holl anifeiliaid sy'n cael eu haberthu. Bydd yr allor bres ar gyfer fy nefnydd personol i.”

16. A dyma Wreia'n gwneud popeth fel roedd y brenin Ahas wedi dweud wrtho.

17. Tynnodd y brenin Ahas y fframiau oddi ar y trolïau a symud y dysglau oddi arnyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd "Y Môr" (sef y ddisgyl fawr oedd ar gefn yr ychen pres) a'i gosod ar lwyfan o garreg.

18. Wedyn symudodd y llwybr dan do oedd ar gyfer y Saboth, a'r fynedfa allanol oedd wedi ei hadeiladu i'r brenin fynd i'r deml. Gwnaeth hyn i gyd o achos brenin Asyria.

19. Mae gweddill hanes Ahas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

20. Pan fuodd Ahas farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.