Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 19 beibl.net 2015 (BNET)

Heseceia'n gofyn am help Duw

1. Pan glywodd y brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD.

2. A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain.

3. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dyma mae Heseceia'n ddweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw.

4. Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’”

5. Pan aeth gweision y brenin Heseceia at Eseia,

6. dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di.

7. Dw i'n mynd i godi ofn arno fe.Bydd e'n clywed si am rywbethac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun.Bydda i'n gwneud iddo gael ei laddgan y cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”

8. Yn y cyfamser roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna.

9. Roedd wedi clywed fod y brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto:

10. “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.

11. Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc?

12. Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? – beth am Gosan, Haran, Retseff, a pobl Eden oedd yn Telassar?

13. Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”

Heseceia'n gweddïo

14. Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD.

15. Yna dyma Heseceia'n gweddïo:“O ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear.

16. O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!

17. ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,

18. ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli.

19. Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, plîs achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig Dduw go iawn.”

Ateb Duw i Heseceia

20. Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi clywed dy weddi di am Senacherib, brenin Asyria,

21. a dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn:Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di!Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phentu ôl i dy gefn di.

22. Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio?Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais,ac yn troi dy lygaid yn sarhaus?Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!

23. Rwyt ti wedi defnyddio dy negeswyri enllibio'r Meistr, a dweud,‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen idringais i ben y mynyddoedd uchaf,ac i ben draw Libanus.Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf,a'r coed pinwydd gorau,er mwyn cyrraedd copa uchafy llechweddau coediog.

24. Dw i wedi cloddio ffynhonnauac yfed dŵr mewn lleoedd estron.Sychais holl ganghennau'r Afon Nilhefo gwadn fy nhraed.’

25. Mae'n rhaid dy fod wedi clywed!Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm –mae'r cwbl wedi ei gynllunio ers amser maith,a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith:i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel.

26. Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth,maen nhw'n ddigalon, ac wedi eu cywilyddio.Maen nhw fel planhigion mewn cae,neu dyfiant ar ben towedi ei grino gan wynt y dwyrain.

27. Dw i'n gwybod popeth amdanat ti– dy symudiadau di i gyd,a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.

28. Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i,a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug,dw i'n mynd i roi bachyn trwy dy drwyn dia ffrwyn yn dy geg di;a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost ti.”

29. “A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir:Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni,a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw.Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi,plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw.

30. Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôlyn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.

31. Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem;y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynolo wneud hyn i gyd.

32. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria:‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi;fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian,nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.

33. Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd daeth e.Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma’—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

34. ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma,er mwyn cadw fy enw da,ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”

Sennacherib, brenin Asyria, yn marw

35. A'r noson honno dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.

36. Felly dyma Senacherib, brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno.

37. Pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma ei feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le.