1. Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magdalen, a'r Fair arall, i edrych y bedd.
2. Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o'r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.
3. A'i wynepryd oedd fel mellten, a'i wisg yn wen fel eira.
4. A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw.
5. A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd.
6. Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd.
7. Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i'w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi.
8. Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i'w ddisgyblion ef.
9. Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i'w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.
10. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y'm gwelant i.
11. Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o'r wyliadwriaeth a ddaethant i'r ddinas, ac a fynegasant i'r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
12. Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda'r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i'r milwyr,
13. Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.
14. Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a'i perswadiwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddiofal.
15. A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16. A'r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd lle yr ordeiniasai'r Iesu iddynt.
17. A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant.
18. A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.
19. Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân;
20. Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.