Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi ei ddyfod ef i waered o'r mynydd, torfeydd lawer a'i canlynasant ef.

2. Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i.

3. A'r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd.

4. A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

5. Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno,

6. A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddirfawr.

7. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachâf ef.

8. A'r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a'm gwas a iacheir.

9. Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.

10. A'r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.

11. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd:

12. Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

13. A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A'i was a iachawyd yn yr awr honno.

14. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r cryd.

15. Ac efe a gyffyrddodd â'i llaw hi; a'r cryd a'i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.

16. Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion;

17. Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.

18. A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i'r lan arall.

19. A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

20. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.

21. Ac un arall o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

22. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i'r meirw gladdu eu meirw.

23. Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddisgyblion a'i canlynasant ef.

24. Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu.

25. A'i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.

26. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawelwch mawr.

27. A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo!

28. Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.

29. Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser?

30. Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori.

31. A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i'r genfaint foch.

32. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i'r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.

33. A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i'r rhai dieflig.

34. Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.