Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu, wedi i'r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

2. Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae'r pasg; a Mab y dyn a draddodir i'w groeshoelio.

3. Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas:

4. A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.

5. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.

6. Ac a'r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,

7. Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford.

8. A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu'r golled hon?

9. Canys fe a allasid gwerthu'r ennaint hwn er llawer, a'i roddi i'r tlodion.

10. A'r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.

11. Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser.

12. Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i'm claddu i.

13. Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.

14. Yna yr aeth un o'r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid,

15. Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.

16. Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i'w fradychu ef.

17. Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta'r pasg?

18. Ac yntau a ddywedodd, Ewch i'r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae'r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a'm disgyblion.

19. A'r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai'r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg.

20. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda'r deuddeg.

21. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a'm bradycha i.

22. A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd?

23. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.

24. Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae'r dyn hwnnw trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.

25. A Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.

26. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.

27. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn:

28. Canys hwn yw fy ngwaed o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau.

29. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.

30. Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.

31. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir.

32. Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o'ch blaen chwi i Galilea.

33. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid di, eto ni'm rhwystrir i byth.

34. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai'r nos hon, cyn canu o'r ceiliog, y'm gwedi deirgwaith.

35. Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.

36. Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw.

37. Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio.

38. Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi.

39. Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.

40. Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi?

41. Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan.

42. Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di.

43. Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.

44. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.

45. Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae'r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid.

46. Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.

47. Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o'r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.

48. A'r hwn a'i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.

49. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a'i cusanodd ef.

50. A'r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.

51. Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.

52. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.

53. A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion?

54. Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod?

55. Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni'm daliasoch.

56. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau'r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.

57. A'r rhai a ddaliasent yr Iesu, a'i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.

58. A Phedr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda'r gweision, i weled y diwedd.

59. A'r archoffeiriaid a'r henuriaid, a'r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;

60. Ac nis cawsant: ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst,

61. Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a'i hadeiladu mewn tri diwrnod.

62. A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae'r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

63. Ond yr Iesu a dawodd. A'r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy'r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw.

64. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r gallu, ac yn dyfod ar gymylau'r nef.

65. Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef.

66. Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth.

67. Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a'i cernodiasant; eraill a'i trawsant ef â gwiail,

68. Gan ddywedyd, Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw'r hwn a'th drawodd?

69. A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead.

70. Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.

71. A phan aeth efe allan i'r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda'r Iesu o Nasareth.

72. A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn.

73. Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.

74. Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog.

75. A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.