Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llyfr cenhedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham.

2. Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Jwdas a'i frodyr;

3. A Jwdas a genhedlodd Phares a Sara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram;

4. Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naason; a Naason a genhedlodd Salmon;

5. A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab; a Boos a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse;

6. A Jesse a genhedlodd Dafydd frenin; a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o'r hon a fuasai wraig Ureias;

7. A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abeia; ac Abeia a genhedlodd Asa;

8. Ac Asa a genhedlodd Josaffat; a Josaffat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Oseias;

9. Ac Oseias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achas; ac Achas a genhedlodd Eseceias;

10. Ac Eseceias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Joseias;

11. A Joseias a genhedlodd Jechoneias a'i frodyr, ynghylch amser y symudiad i Fabilon;

12. Ac wedi'r symudiad i Fabilon, Jechoneias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Sorobabel;

13. A Sorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Asor;

14. Ac Asor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Elïud;

15. Ac Elïud a genhedlodd Eleasar; ac Eleasar a genhedlodd Mathan; a Mathan a genhedlodd Jacob;

16. A Jacob a genhedlodd Joseff, gŵr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.

17. Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.

18. A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Ysbryd Glân.

19. A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.

20. Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseff, mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Ysbryd Glân.

21. A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.

22. (A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd, gan ddywedyd,

23. Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel; yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyda ni.)

24. A Joseff, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymerodd ei wraig:

25. Ac nid adnabu efe hi hyd onid esgorodd hi ar ei mab cyntaf‐anedig. A galwodd ei enw ef IESU.