Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy'r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta.

2. A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth.

3. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gydag ef?

4. Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i'r rhai oedd gydag ef, ond yn unig i'r offeiriaid?

5. Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi'r Saboth, a'u bod yn ddigerydd?

6. Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma un mwy na'r deml.

7. Ond pe gwybuasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed.

8. Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn.

9. Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt.

10. Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno.

11. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?

12. Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau.

13. Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.

14. Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

15. A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll;

16. Ac a orchmynnodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd:

17. Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,

18. Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.

19. Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth.

21. Ac yn ei enw ef y gobeithia'r Cenhedloedd.

22. Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud.

23. A'r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd?

24. Eithr pan glybu'r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid.

25. A'r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.

26. Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?

27. Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

28. Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch.

29. Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo'r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef.

30. Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.

31. Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion.

32. A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.

33. Naill ai gwnewch y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a'i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.

34. O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara'r genau.

35. Y dyn da, o drysor da'r galon, a ddwg allan bethau da: a'r dyn drwg, o'r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.

36. Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.

37. Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.

38. Yna yr atebodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt.

39. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas:

40. Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear.

41. Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma.

42. Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.

43. A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael.

44. Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.

45. Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na'i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i'r genhedlaeth ddrwg hon.

46. Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.

47. A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi.

48. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?

49. Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i:

50. Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.