Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Marc 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw;

2. Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.

3. Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn union ei lwybrau ef.

4. Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.

5. Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea, a'r Hierosolymitiaid, ac a'u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

6. Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.

7. Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i'w datod.

8. Myfi yn wir a'ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân.

9. A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o'r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.

10. Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o'r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a'r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen.

11. A llef a ddaeth o'r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd.

12. Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i'r diffeithwch.

13. Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda'r gwylltfilod: a'r angylion a weiniasant iddo.

14. Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw;

15. A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl.

16. Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.)

17. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion.

18. Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef.

19. Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio'r rhwydau.

20. Ac yn y man efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda'r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.

21. A hwy a aethant i mewn i Gapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i'r synagog, efe a athrawiaethodd.

22. A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

23. Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan: ac efe a lefodd,

24. Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.

25. A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono.

26. Yna wedi i'r ysbryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef uchel, efe a ddaeth allan ohono.

27. Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo.

28. Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea.

29. Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o'r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan.

30. Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi.

31. Ac efe a ddaeth, ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r cryd a'i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.

32. Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.

33. A'r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.

34. Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i'r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.

35. A'r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd.

36. A Simon, a'r rhai oedd gydag ef, a'i dilynasant ef.

37. Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.

38. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i'r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan.

39. Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.

40. A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau.

41. A'r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân.

42. Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef.

43. Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a'i hanfonodd ef ymaith yn y man;

44. Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.

45. Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu'r gair ar led, fel na allai'r Iesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.