Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, sef Cisleu;

2. Pan anfonasent Sereser, a Regemmelech, a'u gwŷr, i dŷ Dduw, i weddïo gerbron yr Arglwydd,

3. Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?

4. Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

5. Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?

6. A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain?

7. Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'i dinasoedd o'i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a'r dyffryndir?

8. A daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, gan ddywedyd,

9. Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i'w frawd:

10. Ac na orthrymwch y weddw a'r amddifad, y dieithr a'r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg bob un i'w gilydd yn eich calonnau.

11. Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed.

12. Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a'r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd.

13. A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; felly y galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd Arglwydd y lluoedd.

14. Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a'r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a'i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.