Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, a rhennir dy ysbail yn dy ganol di.

2. Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a'r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl nis torrir ymaith o'r ddinas.

3. A'r Arglwydd a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad.

4. A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua'r gogledd, a'i hanner tua'r deau.

5. A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal: a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda: a daw yr Arglwydd fy Nuw, a'r holl saint gyda thi.

6. A'r dydd hwnnw y daw i ben, na byddo goleuni disglair, na thywyll:

7. Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr Arglwydd, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr.

8. A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, a'u hanner tua'r môr eithaf: haf a gaeaf y bydd hyn.

9. A'r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un Arglwydd, a'i enw yn un.

10. Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o'r tu deau i Jerwsalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanheddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dŵr Hananeel hyd winwryfau y brenin.

11. Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd.

12. A hyn fydd y pla â'r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a'u tafod a dderfydd yn eu safn.

13. Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog.

14. A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn.

15. Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, yr asyn, a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn, fel y pla hwn.

16. A bydd i bob un a adawer o'r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem, fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ac i gadw gŵyl y pebyll.

17. A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ni bydd glaw arnynt.

18. Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â'r hwn y tery yr Arglwydd y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gŵyl y pebyll.

19. Hyn a fydd cosb yr Aifft, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gŵyl y pebyll.

20. Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd fel meiliau gerbron yr allor.

21. Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i Arglwydd y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymerant ohonynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw.