Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres.

2. Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon,

3. Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon.

4. Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?

5. A'r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

6. Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a'r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a'r brithion a ânt allan i'r deheudir.

7. A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear.

8. Yna efe a waeddodd arnaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.

9. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

10. Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia:

11. Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad;

12. A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gŵr a'i enw BLAGURYN: o'i le hefyd y blagura, ac efe a adeilada deml yr Arglwydd:

13. Ie, teml yr Arglwydd a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau.

14. A'r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr Arglwydd.

15. A'r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd, a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw.