Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd, fel yr eiddo holl lwythau Israel.

2. A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn.

3. A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd.

4. Wele, yr Arglwydd a'i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân.

5. Ascalon a'i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o'i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir.

6. Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid.

7. A mi a gymeraf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i'n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad.

8. A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â'm llygaid.

9. Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen.

10. Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a'r march oddi wrth Jerwsalem, a'r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd: a'i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y ddaear.

11. A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo.

12. Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg:

13. Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y'th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus:

14. A'r Arglwydd a welir trostynt, a'i saeth ef a â allan fel mellten: a'r Arglwydd Dduw a gân ag utgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau.

15. Arglwydd y lluoedd a'u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor.

16. A'r Arglwydd eu Duw a'u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef.

17. Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc, a gwin y gwyryfon.