Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar law; a'r Arglwydd a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes.

2. Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.

3. Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â'i braidd tŷ Jwda, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel.

4. Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.

5. A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch.

6. A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac a'u gwrandawaf hwynt.

7. Bydd Effraim hefyd fel cawr, a'u calonnau a lawenychant fel trwy win: a'u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd.

8. Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant.

9. A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y'm cofiant, a byddant fyw gyda'u plant, a dychwelant.

10. A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt.

11. Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith.

12. Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Arglwydd.