Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur.

2. A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi.

3. Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef.

4. Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o'i mewn.

5. Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr Arglwydd, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.

6. Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr Arglwydd.

7. O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon.

8. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.

9. Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i'w gweision: a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm hanfonodd.

10. Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr Arglwydd.

11. A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm hanfonodd atat.

12. A'r Arglwydd a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn.

13. Pob cnawd, taw yng ngŵydd yr Arglwydd: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.