Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ar y trydydd dydd, Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd, ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o'r tu mewn, ar gyfer tŷ y brenin: a'r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ.

2. A phan welodd y brenin Esther y frenhines yn sefyll yn y cyntedd, hi a gafodd ffafr yn ei olwg ef: a'r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur oedd yn ei law ef tuag at Esther; ac Esther a nesaodd, ac a gyffyrddodd â phen y deyrnwialen.

3. Yna y brenin a ddywedodd wrthi, Beth a fynni di, y frenhines Esther? a pha beth yw dy ddeisyfiad? hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a'i rhoddir i ti.

4. A dywedodd Esther, O rhynga bodd i'r brenin, deled y brenin a Haman heddiw i'r wledd a wneuthum iddo.

5. A'r brenin a ddywedodd, Perwch i Haman frysio i wneuthur yn ôl gair Esther. Felly y daeth y brenin a Haman i'r wledd a wnaethai Esther.

6. A'r brenin a ddywedodd wrth Esther yng nghyfeddach y gwin, Beth yr wyt ti yn ei ofyn, ac fe a roddir i ti? a pheth yr wyt ti yn ei geisio? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a'i cwblheir.

7. Ac Esther a atebodd, ac a ddywedodd, Fy nymuniad a'm deisyfiad yw,

8. O chefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i'r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad; deled y brenin a Haman i'r wledd a arlwywyf iddynt, ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin.

9. Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin, na chyfodasai efe, ac na syflasai erddo ef, Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai.

10. Er hynny Haman a ymataliodd; a phan ddaeth i'w dŷ ei hun, efe a anfonodd, ac a alwodd am ei garedigion, a Seres ei wraig.

11. A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a'r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin.

12. A dywedodd Haman hefyd, Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda'r brenin i'r wledd a wnaethai hi, ond myfi; ac yfory hefyd y'm gwahoddwyd ati hi gyda'r brenin.

13. Ond nid yw hyn oll yn llesau i mi, tra fyddwyf fi yn gweled Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin.

14. Yna y dywedodd Seres ei wraig, a'i holl garedigion wrtho, Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder, a'r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dos gyda'r brenin i'r wledd yn llawen. A da oedd y peth gerbron Haman, am hynny efe a baratôdd y crocbren.