Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines.

2. A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti; a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a'i cwblheir.

3. A'r frenhines Esther a atebodd, ac a ddywedodd, O chefais ffafr yn dy olwg di, O frenin, ac o rhyglydda bodd i'r brenin, rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad, a'm pobl ar fy neisyfiad.

4. Canys gwerthwyd ni, myfi a'm pobl, i'n dinistrio, i'n lladd, ac i'n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin.

5. Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly?

6. A dywedodd Esther, Y gwrthwynebwr a'r gelyn yw yr Haman drygionus hwn. Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a'r frenhines.

7. A'r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin, ac a aeth i ardd y palas: a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin.

8. Yna y dychwelodd y brenin o ardd y palas i dŷ cyfeddach y gwin. Ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwely yr oedd Esther arno. Yna y dywedodd y brenin, Ai treisio y frenhines hefyd y mae efe yn tŷ gyda mi? Hwy'n gyntaf ag yr aeth y gair allan o enau y brenin, hwy a orchuddiasant wyneb Haman.

9. A Harbona, un o'r ystafellyddion, a ddywedodd yng ngŵydd y brenin, Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddeg cufydd a deugain o uchder. Yna y dywedodd y brenin, Crogwch ef ar hwnnw.

10. Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd.