Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wisgodd sachliain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â chwerw lef uchel.

2. Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach.

3. Ac ym mhob talaith a lle a'r y daethai gair y brenin a'i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw.

4. Yna llancesau Esther a'i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi. A'r frenhines a dristaodd yn ddirfawr; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano; ond ni chymerai efe hwynt.

5. Am hynny Esther a alwodd ar Hathach, un o ystafellyddion y brenin, yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o'i blaen hi; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn.

6. Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin.

7. A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon, i'w difetha hwynt.

8. Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i'w dinistrio hwynt, i'w ddangos i Esther, ac i'w fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin, i ymbil ag ef, ac i ymnhedd o'i flaen ef dros ei phobl.

9. A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai.

10. Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach, ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai;

11. Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mai pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i'r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o'i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni'm galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain.

12. A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther.

13. Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon.

14. Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i'r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i'r frenhiniaeth?

15. Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn:

16. Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a'm llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded.

17. Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.