Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly yn y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, pan nesaodd gair y brenin a'i orchymyn i'w cwblhau; yn y dydd y gobeithiasai gelynion yr Iddewon y caent fuddugoliaethu arnynt, (ond yn y gwrthwyneb i hynny y bu, canys yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion;)

2. Yr Iddewon a ymgynullasant yn eu dinasoedd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, i estyn llaw yn erbyn y rhai oedd yn ceisio niwed iddynt: ac ni safodd neb yn eu hwynebau; canys eu harswyd a syrthiasai ar yr holl bobloedd.

3. A holl dywysogion y taleithiau, a'r pendefigion, a'r dugiaid, a'r rhai oedd yn gwneuthur y gwaith oedd eiddo y brenin, oedd yn cynorthwyo'r Iddewon: canys arswyd Mordecai a syrthiasai arnynt hwy.

4. Canys mawr oedd Mordecai yn nhŷ y brenin, a'i glod ef oedd yn myned trwy yr holl daleithiau: oherwydd y gŵr hwn Mordecai oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu.

5. Felly yr Iddewon a drawsant eu holl elynion â dyrnod y cleddyf, a lladdedigaeth, a distryw; a gwnaethant i'w caseion yn ôl eu hewyllys eu hun.

6. Ac yn Susan y brenhinllys, yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant bum cant o wŷr.

7. Parsandatha hefyd, a Dalffon, ac Aspatha,

8. Poratha hefyd, ac Adalia, ac Aridatha,

9. Parmasta hefyd, ac Arisai, Aridai hefyd, a Bajesatha,

10. Deng mab Haman mab Hammedatha, gwrthwynebwr yr Iddewon, a laddasant hwy: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.

11. Y dwthwn hwnnw nifer y lladdedigion yn Susan y brenhindy a ddaeth gerbron y brenin.

12. A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines, Yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant yn Susan y brenhinllys, bum cant o wŷr, a deng mab Haman; yn y rhan arall o daleithiau y brenin beth a wnaethant hwy? beth gan hynny yw dy ddymuniad? ac fe a roddir i ti; a pheth yw dy ddeisyfiad ymhellach? ac fe a'i gwneir.

13. Yna y dywedodd Esther, O rhyglydda bodd i'r brenin, caniataer yfory i'r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddiw: a chrogant ddeng mab Haman ar y pren.

14. A'r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a'r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwy a grogasant ddeng mab Haman.

15. Felly yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar hefyd, ac a laddasant dri chant o wŷr yn Susan: ond nid estynasant eu llaw ar yr ysbail.

16. A'r rhan arall o'r Iddewon, y rhai oedd yn nhaleithiau y brenin a ymgasglasant, ac a safasant am eu heinioes, ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion, ac a laddasant bymtheng mil a thrigain o'u caseion: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.

17. Ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar y bu hyn, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono y gorffwysasant, ac y cynaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd.

18. Ond yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant, a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd.

19. Am hynny Iddewon y pentrefi, y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau, oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis Adar, mewn llawenydd a chyfeddach, ac yn ddiwrnod daionus, ac i anfon rhannau i'w gilydd.

20. A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos ac ymhell,

21. I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar, a'r pymthegfed dydd ohono, bob blwyddyn;

22. Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a'r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i'w gilydd, a rhoddion i'r rhai anghenus.

23. A'r Iddewon a gymerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent, ac fel yr ysgrifenasai Mordecai atynt.

24. Canys Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr holl Iddewon, a arfaethasai yn erbyn yr Iddewon, am eu difetha hwynt; ac efe a fwriasai Pwr, hwnnw yw y coelbren, i'w dinistrio hwynt, ac i'w difetha:

25. A phan ddaeth Esther o flaen y brenin, efe a archodd trwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a'i grogi ef a'i feibion ar y pren.

26. Am hynny y galwasant y dyddiau hynny Pwrim, ar enw y Pwr: am hynny, oherwydd holl eiriau y llythyr hwn, ac oherwydd y peth a welsent hwy am y peth hyn, a'r peth a ddigwyddasai iddynt,

27. Yr Iddewon a ordeiniasant, ac a gymerasant arnynt, ac ar eu had, ac ar yr holl rai oedd yn un â hwynt, na phallai bod cynnal y ddau ddydd hynny, yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tymor, bob blwyddyn:

28. Ac y byddai y dyddiau hynny i'w cofio, ac i'w cynnal trwy bob cenhedlaeth, a phob teulu, pob talaith, a phob dinas; sef na phallai y dyddiau Pwrim hynny o fysg yr Iddewon, ac na ddarfyddai eu coffadwriaeth hwy o blith eu had.

29. Ac ysgrifennodd Esther y frenhines merch Abihail, a Mordecai yr Iddew, trwy eu holl rym, i sicrhau ail lythyr y Pwrim hwn.

30. Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon, trwy y cant a'r saith dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus, â geiriau heddwch a gwirionedd;

31. I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew, ac Esther y frenhines, iddynt hwy, ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun, a thros eu had, eiriau yr ymprydiau a'u gwaedd.

32. Ac ymadrodd Esther a gadarnhaodd achosion y dyddiau Pwrim hynny: ac ysgrifennwyd hyn mewn llyfr.