Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r brenin Ahasferus a osododd dreth ar y wlad, ac ar ynysoedd y môr.

2. A holl weithredoedd ei rym ef, a'i gadernid, a hysbysrwydd o fawredd Mordecai, â'r hwn y mawrhaodd y brenin ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Phersia?

3. Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i'r brenin Ahasferus, ac yn fawr gan yr Iddewon, ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w holl hiliogaeth.