Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wedi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad, ac a'i dyrchafodd ef; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef.

2. A holl weision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, oedd yn ymgrymu, ac yn ymostwng i Haman; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef: ond nid ymgrymodd Mordecai, ac nid ymostyngodd.

3. Yna gweision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, a ddywedasant wrth Mordecai, Paham yr ydwyt ti yn troseddu gorchymyn y brenin?

4. Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, eto ni wrandawai efe arnynt hwy; am hynny y mynegasant i Haman, i edrych a safai geiriau Mordecai: canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe.

5. A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu, nac yn ymostwng iddo, Haman a lanwyd o ddicllonedd.

6. Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan; canys mynegasant iddo bobl Mordecai: am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon, y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus, sef pobl Mordecai.

7. Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i'r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.

8. A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a'u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i'r brenin eu dioddef hwynt.

9. O bydd bodlon gan y brenin, ysgrifenner am eu difetha hwynt: a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo'r rhai a wnânt y weithred hon, i'w dwyn i drysorau y brenin.

10. A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law, ac a'i rhoddes i Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr Iddewon.

11. A'r brenin a ddywedodd wrth Haman, Rhodder yr arian i ti, a'r bobl, i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg.

12. Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.

13. A'r llythyrau a anfonwyd gyda'r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt.

14. Testun yr ysgrifen, i roi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i'r holl bobloedd, i fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw.

15. Y rhedegwyr a aethant, wedi eu cymell trwy air y brenin, a'r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys. Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oedd yn athrist.