1. A Dafydd a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul.
2. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddiffynfa, a'm gwaredydd i;
3. Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dŵr a'm noddfa, fy achubwr; rhag trais y'm hachubaist.
4. Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y'm cedwir rhag fy ngelynion.
5. Canys gofidion angau a'm cylchynasant; afonydd y fall a'm dychrynasant i.
6. Doluriau uffern a'm hamgylchynasant; maglau angau a'm rhagflaenasant.
7. Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o'i deml, a'm gwaedd a aeth i'w glustiau ef.
8. Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio.
9. Dyrchafodd mwg o'i ffroenau ef, a thân o'i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef.
10. Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
11. Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt.
12. Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o'i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
13. Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd.
14. Yr Arglwydd a daranodd o'r nefoedd, a'r Goruchaf a roddes ei lef.
15. Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a'u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a'u drylliodd hwynt.
16. Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr Arglwydd, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.
17. Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer.
18. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion; am eu bod yn drech na mi.
19. Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.
20. Efe a'm dug i ehangder: efe a'm gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof.
21. Yr Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
22. Canys mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.
23. Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i.
24. Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
25. A'r Arglwydd a'm gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef.
26. A'r trugarog y gwnei drugaredd: â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
27. A'r glân y gwnei lendid; ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.
28. Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i'w darostwng.
29. Canys ti yw fy nghannwyll i, O Arglwydd; a'r Arglwydd a lewyrcha fy nhywyllwch.
30. Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur.
31. Duw sydd berffaith ei ffordd; ymadrodd yr Arglwydd sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
32. Canys pwy sydd Dduw, heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig, eithr ein Duw ni?
33. Duw yw fy nghadernid a'm nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith.
34. Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd.
35. Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau.
36. Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac â'th fwynder y lluosogaist fi.
37. Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau.
38. Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
39. Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i.
40. Canys ti a'm gwregysaist i â nerth i ryfel: y rhai a ymgyfodent i'm herbyn, a ddarostyngaist danaf.
41. Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
42. Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr Arglwydd, ond nid atebodd hwynt.
43. Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel tom yr heolydd, a thaenais hwynt.
44. Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.
45. Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwrandawant arnaf fi.
46. Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o'u carchardai.
47. Byw fyddo yr Arglwydd, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth.
48. Duw sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi,
49. Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a'm dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i'm herbyn; rhag y gŵr traws y'm hachubaist i.
50. Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.
51. Efe sydd dŵr iachawdwriaeth i'w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i'w eneiniog, i Dafydd, ac i'w had yn dragywydd.