Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a'r llall yn dlawd.

2. Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid a gwartheg:

3. A chan y tlawd nid oedd dim ond un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda'i blant: o'i damaid ef y bwytâi hi, ac o'i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch.

4. Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd o'i ddefaid ei hun, ac o'i wartheg ei hun, i arlwyo i'r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a'i paratôdd i'r gŵr a ddaethai ato.

5. A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr Arglwydd, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn.

6. A'r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth hyn, ac nad arbedodd.

7. A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Myfi a'th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a'th waredais di o law Saul:

8. Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a phe rhy fychan fuasai hynny, myfi a roddaswn i ti fwy o lawer.

9. Paham y dirmygaist air yr Arglwydd, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â'r cleddyf, a'i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a thi a'i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon.

10. Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â'th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti.

11. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a gyfodaf i'th erbyn ddrwg o'th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a'u rhoddaf hwynt i'th gymydog, ac efe a orwedd gyda'th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn.

12. Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul.

13. A dywedodd Dafydd wrth Nathan, Pechais yn erbyn yr Arglwydd. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr Arglwydd hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw.

14. Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr Arglwydd gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau.

15. A Nathan a aeth i'w dŷ. A'r Arglwydd a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd; ac efe a aeth yn glaf iawn.

16. Dafydd am hynny a ymbiliodd â Duw dros y bachgen; a Dafydd a ymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos.

17. A henuriaid ei dŷ ef a gyfodasant ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytâi fara gyda hwynt.

18. Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn?

19. Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw.

20. Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr Arglwydd, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i'w dŷ ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd.

21. Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef, Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara.

22. Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a ŵyr a drugarha yr Arglwydd wrthyf, fel y byddo byw y plentyn?

23. Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi.

24. A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddûg fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A'r Arglwydd a'i carodd ef.

25. Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr Arglwydd.

26. A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas.

27. A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd.

28. Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi.

29. A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a'i henillodd hi.

30. Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a'i phwys hi oedd dalent o aur, gyda'r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o'r ddinas anrhaith fawr iawn.

31. Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a'u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a'u bwriodd hwynt i'r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a'r holl bobl i Jerwsalem.