Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

2. Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd â mi. A Dafydd a anfonodd gyda'i weision i'w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon.

3. A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd, Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyn chwilio'r ddinas, a'i throedio, a'i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti?

4. Yna Hanun a gymerth weision Dafydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a'u gollyngodd hwynt ymaith.

5. Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i'w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi; ac yna dychwelwch.

6. A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob, a'r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr.

7. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.

8. A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a'r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o'r neilltu yn y maes.

9. Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid.

10. A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i'w byddino yn erbyn meibion Ammon.

11. Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i'th gynorthwyo dithau.

12. Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

13. A nesaodd Joab, a'r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i'r rhyfel: a hwy a ffoesant o'i flaen ef.

14. A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i'r ddinas. A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem.

15. A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd.

16. A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o'r tu hwnt i'r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o'u blaen.

17. A phan fynegwyd i Dafydd hynny, efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a'r Syriaid a ymfyddinasant yn erbyn Dafydd, ac a ymladdasant ag ef.

18. A'r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o'r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno.

19. A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a'u gwasanaethasant hwynt. A'r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meibion Ammon mwyach.