Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Aphan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant.

2. A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin:

3. A'r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.)

4. Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o'i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a'i famaeth a'i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A'i enw ef oedd Meffiboseth.

5. A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.

6. Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a'i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant.

7. A phan ddaethant i'r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a'i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef; ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy'r gwastadedd ar hyd y nos.

8. A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a'r Arglwydd a roddes i'm harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.

9. A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimon y Beerothiad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra,

10. Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a'i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl:

11. Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear?

12. A Dafydd a orchmynnodd i'w lanciau; a hwy a'u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a'u traed, ac a'u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a'i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron.