Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Dafydd a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan?

2. Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a'i enw Siba. A hwy a'i galwasant ef at Dafydd. A'r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe.

3. A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o'i draed.

4. A dywedodd y brenin wrtho, Pa le y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Ammïel, yn Lo‐debar.

5. Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a'i cyrchodd ef o dŷ Machir, mab Ammïel, o Lo‐debar.

6. A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Dafydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was.

7. A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd â thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol.

8. Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit ar gi marw o'm bath i?

9. Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl dŷ ef, a roddais i fab dy feistr di.

10. A thi a erddi y tir iddo ef, ti, a'th feibion, a'th weision, ac a'u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision.

11. Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i'w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin.

12. Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a'i enw oedd Micha. A phawb a'r a oedd yn cyfanheddu tŷ Siba oedd weision i Meffiboseth.

13. A Meffiboseth a drigodd yn Jerwsalem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o'i ddeudroed.