Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma eiriau diwethaf Dafydd. Dywedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd ganiedydd Israel;

2. Ysbryd yr Arglwydd a lefarodd ynof fi, a'i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod.

3. Duw Israel a ddywedodd wrthyf fi, Craig Israel a ddywedodd, Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn Duw:

4. Ac efe a fydd fel y bore‐oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o'r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw.

5. Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a'm holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.

6. A'r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt.

7. Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.

8. Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith.

9. Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith.

10. Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o'i law ef wrth y cleddyf: a'r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a'r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio.

11. Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A'r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o'r maes yn llawn o ffacbys: a'r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid.

12. Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a'i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid. Felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr.

13. A thri o'r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

14. A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa: a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem.

15. A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a'm dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?

16. A'r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cymerasant hefyd, ac a'i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a'i diodoffrymodd ef i'r Arglwydd;

17. Ac a ddywedodd, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny.

18. Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o'r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a'u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri.

19. Onid anrhydeddusaf oedd efe o'r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf.

20. A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.

21. Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad, ac a'i lladdodd ef â'i waywffon ei hun.

22. Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn.

23. Anrhydeddusach oedd na'r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a'i gosododd ef ar ei wŷr o gard.

24. Asahel brawd Joab oedd un o'r deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad,

25. Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,

26. Heles y Paltiad, Ira mab Icces y Tecoiad,

27. Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,

28. Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,

29. Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin,

30. Benaia y Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas,

31. Abi‐albon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad,

32. Eliahba y Saalboniad; o feibion Jasen, Jonathan,

33. Samma yr Harariad, Ahïam mab Sarar yr Harariad,

34. Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Elïam mab Ahitoffel y Giloniad,

35. Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad,

36. Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad,

37. Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia,

38. Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

39. Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl.