1. Dyma air yr ARGLWYDD a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynghylch y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa.
2. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:‘Wele, y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd,ac yn llifeirio'n ffrwd gref;llifant dros y wlad a'i chynnwys,ei dinasoedd a'u preswylwyr.Y mae'r bobl yn gweiddia holl breswylwyr y wlad yn udo,
3. oherwydd sŵn carnau ei feirch yn curo,ac oherwydd trwst ei gerbydaua thwrf yr olwynion.Ni thry'r rhieni'n ôl i edrych am y plant;gwanychodd eu dwylo gymaint.
4. Daeth y dydd i ddinistrioyr holl Philistiaid,i dorri allan o Tyrus ac o Sidonbob un sy'n aros i'w cynorthwyo.Dinistria'r ARGLWYDD y Philistiaid,gweddill ynystir Cafftor.
5. Daeth moelni ar Gasa,a dinistriwyd Ascalon.Ti, weddill yr Anacim,pa hyd yr archolli dy hun?
6. O gleddyf yr ARGLWYDD,pa hyd y byddi heb ymlonyddu?Dychwel i'th wain;gorffwys, a bydd dawel.
7. Pa fodd yr ymlonydda,gan i'r ARGLWYDD ei orchymyn?Yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môry gosododd ef.’ ”