Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dryllio'r Ystên

1. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Dos a phryn ystên bridd o waith crochenydd, a chymer rai o blith henuriaid y bobl a'r offeiriaid,

2. a dos allan i ddyffryn Ben-hinnom wrth fynedfa Porth Harsith, a chyhoedda yno y geiriau a fynegaf wrthyt,

3. a dweud, ‘Clywch air yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Byddaf yn dwyn y fath ddrwg ar y lle hwn nes bod clustiau pwy bynnag a glyw amdano yn merwino.

4. “ ‘Am iddynt fy ngwrthod, a chamddefnyddio'r lle hwn ac arogldarthu ynddo i dduwiau eraill nad oeddent yn eu hadnabod, hwy na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda, a llenwi'r lle â gwaed y rhai dieuog,

5. ac adeiladu uchelfeydd i Baal, i losgi eu meibion yn y tân fel poethoffrwm i Baal, peth na orchmynnais, na'i lefaru, ac na ddaeth i'm meddwl—

6. am hynny, wele'r dyddiau'n dod, medd yr ARGLWYDD, pryd na elwir y lle hwn mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa.

7. “ ‘Gwnaf gyngor Jwda a Jerwsalem yn ofer yn y lle hwn, a pharaf i'r bobl syrthio trwy'r cleddyf o flaen eu gelynion, a mynd i afael y rhai sy'n ceisio'u bywyd; rhof eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.

8. Gwnaf y ddinas hon yn arswyd ac yn syndod, a bydd pawb sy'n mynd heibio yn arswydo ac yn synnu at ei holl glwyfau.

9. Gwnaf iddynt fwyta cnawd eu meibion a chnawd eu merched; bwytânt gnawd ei gilydd yn y gwarchae ac yn y cyfyngder a ddygir arnynt gan eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u bywyd.’

10. “Yna fe ddrylli'r ystên yng ngŵydd y gwŷr a aeth gyda thi,

11. a dweud wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Drylliaf y bobl hyn a'r ddinas hon, fel y dryllir llestr y crochenydd, ac ni ellir ei gyfannu mwyach. Fe gleddir cyrff yn Toffet o ddiffyg lle arall i'w claddu.

12. Felly y gwnaf i'r lle hwn a'i breswylwyr, medd yr ARGLWYDD, i beri i'r ddinas hon fod fel Toffet.

13. A bydd tai Jerwsalem a thai brenhinoedd Jwda fel mangre Toffet, yn halogedig—yr holl dai lle bu arogldarthu ar y to i holl lu'r nefoedd, a lle bu tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill.’ ”

14. Daeth Jeremeia o Toffet, lle'r oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i broffwydo, a safodd yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD, a llefarodd wrth yr holl bobl,

15. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Dyma fi'n dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefi, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, am iddynt ystyfnigo a gwrthod gwrando ar fy ngeiriau.’ ”