Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Pechod Jerwsalem

1. “Rhedwch yma a thraw trwy heolydd Jerwsalem, edrychwch a sylwch;chwiliwch yn ei lleoedd llydain a oes un i'w gaelsy'n gwneud barn ac yn ceisio gwirionedd,er mwyn i mi ei harbed hi.

2. Er iddynt ddweud, ‘Byw yw'r ARGLWYDD’,eto tyngu'n gelwyddog y maent.”

3. O ARGLWYDD, onid ar wirionedd y mae dy lygaid di?Trewaist hwy, ond ni fu'n ofid iddynt;difethaist hwy, ond gwrthodasant dderbyn cerydd.Gwnaethant eu hwynebau'n galetach na charreg,a gwrthod dychwelyd.

4. Yna dywedais, “Nid yw'r rhai hyn ond tlodion; ynfydion ydynt,a heb wybod ffordd yr ARGLWYDD na gofynion eu Duw.

5. Mi af yn hytrach at y mawrion, i ymddiddan â hwy;fe wyddant hwy ffordd yr ARGLWYDD a gofynion eu Duw.Ond y maent hwythau'n ogystal wedi malurio'r iau,a dryllio'r tresi.

6. Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr,a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio;bydd llewpard yn gwylio'u dinasoeddac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt;oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.

7. “Sut y maddeuaf iti am hyn?Y mae dy blant wedi fy ngadael,ac wedi tyngu i'r rhai nad ydynt dduwiau.Diwellais hwy, eto gwnaethant odineb a heidio i dŷ'r butain.

8. Yr oeddent fel meirch nwydus a phorthiannus,pob un yn gweryru am gaseg ei gymydog.

9. Onid ymwelaf â chwi am hyn?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

10. “Tramwywch trwy ei rhesi gwinwydd, a dinistriwch hwy,ond peidiwch â gwneud diwedd llwyr.Torrwch ymaith ei brigau, canys nid eiddo'r ARGLWYDD mohonynt.

11. Oherwydd bradychodd tŷ Israel a thŷ Jwda fi'n llwyr,” medd yr ARGLWYDD.

12. Buont yn gelwyddog am yr ARGLWYDD a dweud, “Ni wna ef ddim.Ni ddaw drwg arnom, ni welwn gleddyf na newyn;

13. nid yw'r proffwydi ond gwynt, nid yw'r gair yn eu plith.Fel hyn y gwneir iddynt.”

14. Am hynny, dyma air yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd:“Am i chwi siarad fel hyn,dyma fi'n rhoi fy ngeiriau yn dy enau fel tân,a'r bobl hyn yn gynnud, ac fe'u difa.

15. Wele, fe ddygaf yn eich erbyn, dŷ Israel, genedl o bell—hen genedl, cenedl o'r oesoedd gynt,” medd yr ARGLWYDD,“cenedl nad wyt yn gwybod ei hiaith, nac yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.

16. Y mae ei chawell saethau fel bedd agored;gwŷr cedyrn ydynt oll.

17. Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara;ysa dy feibion a'th ferched;ysa dy braidd a'th wartheg;ysa dy winwydd a'th ffigyswydd;distrywia â chleddyf dy ddinasoedd caerog,y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.

18. “Ac eto yn y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD, “ni ddygaf ddiwedd llwyr arnoch.

19. Pan ddywedwch, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw yr holl bethau hyn i ni?’, fe ddywedi wrthynt, ‘Fel y bu i chwi fy ngwrthod i, a gwasanaethu duwiau estron yn eich tir, felly y gwasanaethwch bobl ddieithr mewn gwlad nad yw'n eiddo i chwi.’

20. “Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, cyhoeddwch hyn yn Jwda a dweud,

21. ‘Clywch hyn yn awr, bobl ynfyd, ddiddeall:y mae ganddynt lygaid, ond ni welant; clustiau, ond ni chlywant.

22. Onid oes arnoch fy ofn i?’ medd yr ARGLWYDD. ‘Oni chrynwch o'm blaen?Mi osodais y tywod yn derfyn i'r môr,yn derfyn sicr na all ei groesi;pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant,pan rua'r dyfroedd nid ânt drosto.

23. Ond calon wrthnysig a gwrthryfelgar sydd gan y bobl hyn;y maent yn parhau i wrthgilio.

24. Ac ni ddywedant yn eu calon, “Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw,sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd,a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf.”

25. Ond y mae eich camweddau wedi rhwystro hyn,a'ch pechodau wedi atal daioni rhagoch.

26. Oherwydd cafwyd rhai drwg ymhlith fy mhobl;y maent yn gwylio fel un yn gosod magl,ac yn gosod offer dinistr i ddal pobl.

27. Fel y mae cawell yn llawn o adar,felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.

28. Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras.Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg;ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo,ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.

29. Onid ymwelaf â chwi am hyn?’ medd yr ARGLWYDD.‘Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

30. Peth aruthr ac erchyll a ddaeth i'r wlad.

31. Y mae'r proffwydi yn proffwydo celwydd,a'r offeiriaid yn cyfarwyddo'n unol â hynny,a'm pobl yn hoffi'r peth.Ond beth a wnewch yn y diwedd?’ ”