1. Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, yn y degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon a'i holl lu yn erbyn Jerwsalem a gwarchae arni;
2. ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd torrwyd bwlch ym mur y ddinas.
3. Daeth holl swyddogion brenin Babilon i mewn a sefyll yn y Porth Canol, sef Nergal-sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag, a holl swyddogion eraill brenin Babilon.
4. Pan welodd Sedeceia brenin Jwda a'i holl filwyr hwy, ffoesant a gadael y ddinas liw nos, gan ddilyn ffordd gardd y brenin i'r porth rhwng y ddau fur, ac allan i ffordd Araba.
5. Ond canlynodd llu'r Caldeaid hwy, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho a'i ddal, a'i ddwyn at Nebuchadnesar brenin Babilon yn Ribla yng ngwlad Hamath; yno y dyfarnwyd arno.
6. A lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid yn Ribla; a lladdodd brenin Babilon hefyd holl uchelwyr Jwda.
7. Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo mewn cadwynau pres i'w ddwyn i Fabilon.
8. Llosgodd y Caldeaid â thân blasty'r brenin a thai'r bobl, a dryllio muriau Jerwsalem.
9. Yna caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, weddill y bobl i Fabilon, sef y rhai oedd wedi eu gadael yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi troi ato ef;
10. a gadawodd yng ngwlad Jwda rai pobl dlawd nad oedd ganddynt ddim, a rhoi iddynt yr adeg honno winllannoedd a meysydd.
11. Rhoddodd Nebuchadnesar brenin Babilon orchymyn ynghylch Jeremeia trwy law Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a dweud,
12. “Cymer ef a gofala amdano; paid â gwneud dim niwed iddo, ond gwneud fel y dywed wrthyt.”
13. Yna anfonodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a Nebusasban, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag a holl benaethiaid brenin Babilon,
14. a chymryd Jeremeia o gyntedd y gwylwyr, a'i roi i Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, i'w gyrchu adref; a thrigodd ymhlith y bobl.
15. Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia pan oedd yn garcharor yng nghyntedd y gwylwyr, a dweud,
16. “Dos a dywed wrth Ebed-melech yr Ethiopiad, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yr wyf yn dwyn fy ngeiriau yn erbyn y ddinas hon er drwg ac nid er lles, a chyflawnir hwy yn dy ŵydd y dydd hwnnw.
17. Ond gwaredaf di y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac ni'th roddir yng ngafael y dynion y mae arnat eu hofn.
18. Oherwydd rwy'n sicr o'th waredu, ac ni syrthi trwy'r cleddyf; byddi'n arbed dy fywyd am dy fod wedi ymddiried ynof fi,’ medd yr ARGLWYDD.”