1. Yr wyf wedi dod i'm gardd, fy chwaer a'm priodferch;cesglais fy myrr a'm perlysiau,a bwyta fy niliau a'm mêl,ac yfed fy ngwin a'm llaeth.Gyfeillion, bwytewch ac yfwch,nes meddwi ar gariad.
2. Yr oeddwn yn cysgu, ond â'm calon yn effro.Ust! Y mae fy nghariad yn curo:“Agor imi, fy chwaer, f'anwylyd,fy ngholomen, yr un berffaith yn fy ngolwg,oherwydd y mae fy ngwallt yn diferu o wlith,a'm barf o ddefnynnau'r nos.”
3. Ond yr wyf wedi diosg fy mantell;a oes raid imi ei gwisgo eto?Yr wyf wedi golchi fy nhraed;a oes raid imi eu maeddu eto?
4. Pan roes fy nghariad ei law ar y glicied,yr oeddwn wedi fy nghynhyrfu trwof.
5. Codais i agor i'm cariad,ac yr oedd fy nwylo'n diferu o fyrr,a'r myrr o'm bysedd yn llifo ar ddolennau'r clo.
6. Pan agorais i'm cariad,yr oedd wedi cilio a mynd ymaith,ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd;chwiliais amdano, ond heb ei gael;gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.
7. Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod,wrth iddynt fynd o amgylch y dref,a rhoesant gurfa imi a'm niweidio;bu i'r rhai oedd yn gwylio'r murddwyn fy mantell oddi arnaf.
8. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.Os dewch o hyd i'm cariad,dywedwch wrtho fy mod yn glaf o gariad.
9. A yw dy gariad di yn well nag eraill,O ti, y decaf o ferched?A yw dy gariad di yn well nag eraill,i beri iti ymbil fel hyn arnom?
10. Y mae fy nghariad yn deg a gwridog,yn sefyll allan ymysg deng mil.
11. Y mae ei ben fel aur coeth,a'i wallt yn gyrliog,yn ddu fel y frân.
12. Y mae ei lygaid fel colomennodwrth ffrydiau dŵr,wedi eu golchi â llaeth,a'u gosod yn briodol yn eu lle.
13. Y mae ei ruddiau fel gwely perlysiauyn gwasgaru persawr;y mae ei wefusau fel lilïauyn diferu o fyrr rhedegog.
14. Y mae ei ddwylo fel dysglau auryn llawn gemau;y mae ei gorff fel gwaith iforiwedi ei orchuddio â saffir.
15. Y mae ei goesau fel colofnau o farmor,wedi eu gosod ar sylfaen o aur,a'i ymddangosiad fel Lebanon,mor urddasol â'r cedrwydd.
16. Y mae ei wefusau yn felys;y mae popeth ynddo'n ddymunol.Un fel hyn yw fy nghariad,un fel hyn yw fy nghyfaill,O ferched Jerwsalem.