Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O na fyddit yn frawd i mi,wedi dy fagu ar fronnau fy mam!Yna pan welwn di yn y stryd byddwn yn dy gusanu,ac ni fyddai neb yn fy nirmygu.

2. Byddwn yn dy arwaina'th ddwyn i dŷ fy mam a'm hyfforddodd,a rhoi gwin llysiau yn ddiod iti,sudd fy mhomgranadau.

3. Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.

4. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.

Y Chweched Caniad

5. Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch,yn pwyso ar ei chariad?Deffroais di dan y pren afalau,lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.

6. Gosod fi fel sêl ar dy galon,fel sêl ar dy fraich;oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,a nwyd mor greulon â'r bedd;y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd,fel fflam angerddol.

7. Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad,ac ni all afonydd ei foddi.Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad,byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.

8. Y mae gennym chwaer fachsydd heb fagu bronnau.Beth a wnawn i'n chwaerpan ofynnir amdani?

9. Os mur yw hi,byddwn yn adeiladu caer arian arno;os drws,byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd.

10. Mur wyf fi,a'm bronnau fel tyrau;yn ei olwg ef yr wyffel un yn rhoi boddhad.

11. Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon;pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr,yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.

12. Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun;fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian,a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant.

13. Ti sy'n eistedd yn yr ardd,a chyfeillion yn gwrando ar dy lais,gad i mi dy glywed.

14. Brysia allan, fy nghariad,a bydd yn debyg i afrewig,neu'r hydd ifancar fynyddoedd y perlysiau.