1. O ti, y decaf o ferched,ple'r aeth dy gariad?Pa ffordd yr aeth dy gariad,inni chwilio amdano gyda thi?
2. Fe aeth fy nghariad i lawr i'w ardd,i'r gwelyau perlysiau,i ofalu am y gerddi,ac i gasglu'r lilïau.
3. Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad,ac yntau'n eiddof finnau;y mae'n bugeilio ymysg y lilïau.
4. Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd,yn hardd fel Jerwsalem,mor urddasol â llu banerog.
5. Tro dy lygaid oddi wrthyf,y maent yn fy nghyffroi;y mae dy wallt fel diadell o eifryn dod i lawr o Fynydd Gilead.
6. Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaidyn dod i fyny o'r olchfa,y cwbl ohonynt yn efeilliaid,heb un yn amddifad.
7. Y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlaisfel darn o bomgranad.
8. Er bod trigain o freninesaua phedwar ugain o ordderchwragedd,a llancesau na ellir eu rhifo,
9. y mae fy ngholomen, yr un berffaith,ar ei phen ei hun,unig blentyn ei mam,y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni.Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd,ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.
10. Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr,yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul,yn urddasol fel llu banerog?
11. Euthum i lawr i'w ardd gnaui edrych ar ffrwythau'r dyffryn,a gweld a oedd y winwydden yn blaguro,a blodau ar y pomgranadau.
12. Ni wyddwn y cawn fy rhoiyng ngherbydau perthnasau'r tywysog.
13. Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, Sulames!Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, gad inni dy weld.O fel yr hoffwch edrych ar y Sulamesyn dawnsio rhwng y rhengoedd!