Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau. O ferch y tywysog!Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemauo waith crefftwr medrus.

2. Y mae dy fogail fel ffiol gronnad yw byth yn brin o win cymysg;y mae dy fol fel pentwr o wenithwedi ei amgylchynu gan lilïau.

3. Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,gefeilliaid ewig.

4. Y mae dy wddf fel tŵr ifori,a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon,ger mynedfa Bath-rabbim;y mae dy drwyn fel tŵr Lebanon,sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.

5. Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmela gwallt dy ben fel porffor,a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.

6. Mor brydferth, mor hardd wyt,fy anwylyd, y fwyaf dymunol.

7. Y mae dy gorff fel palmwydden,a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.

8. Dywedais, “Dringaf y balmwydden,a gafael yn ei brigau.”Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin,ac arogl dy anadl fel afalau,

9. a'th wefusau fel y gwin gorauyn llifo'n esmwyth mewn cariad,ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd.

10. Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad,ac yntau'n fy chwennych.

11. Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes,a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.

12. Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd,i edrych a yw'r winwydden yn blaguro,a'i blodau yn agor,a'r pomgranadau yn blodeuo;yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.

13. Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl;o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau,ffrwythau newydd a hena gedwais i ti, fy nghariad.