Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Caniad Cyntaf

1. Cân y caniadau, eiddo Solomon.

2. Cusana fi â chusanau dy wefusau,oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin,

3. ac arogl dy bersawr yn hyfryd,a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru;dyna pam y mae merched yn dy garu.

4. Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd;cymer fi i'th ystafell, O frenin.Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot,a chanmol dy gariad yn fwy na gwin;mor briodol yw iddynt dy garu!

5. O ferched Jerwsalem,er fy mod yn dywyll fy lliwfel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon,yr wyf yn brydferth.

6. Peidiwch â rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw,oherwydd i'r haul fy llosgi.Bu meibion fy mam yn gas wrthyf,a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd;ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.

7. Fy nghariad, dywed wrthyfymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd,ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd.Pam y byddaf fel un yn crwydrowrth ymyl praidd dy gyfeillion?

8. O ti, y decaf o ferched,os nad wyt yn gwybod,yna dilyn lwybrau'r defaid,a bugeilia dy fynnodgerllaw pebyll y bugeiliaid.

9. F'anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybui feirch cerbydau Pharo.

10. Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi,a'th wddf gan emau.

11. Fe wnawn iti gadwynau aurgydag addurniadau arian.

12. Pan yw'r brenin ar ei wely,y mae fy nard yn gwasgaru arogl.

13. Y mae fy nghariad fel clwstwr o fyrryn gorffwys rhwng fy mronnau.

14. Y mae fy nghariad fel tusw o flodau hennao winllannoedd En-gedi.

15. O mor brydferth wyt, f'anwylyd.O mor brydferth,a'th lygaid fel colomennod!

16. Mor brydferth wyt, fy nghariad.O mor ddymunol!Y mae ein gwely wedi ei orchuddio â dail.

17. Y cedrwydd yw trawstiau ein tŷa'r ffynidwydd yw ei ddistiau.