1. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cei weld yn awr beth a wnaf i Pharo; â llaw nerthol bydd yn gollwng y bobl yn rhydd, a'u gyrru ymaith o'i wlad.”
2. Dywedodd Duw hefyd wrth Moses, “Myfi yw'r ARGLWYDD.
3. Ymddangosais i Abraham, Isaac a Jacob fel Duw Hollalluog, ac nid oeddent yn fy adnabod wrth fy enw, ARGLWYDD.
4. Hefyd, gwneuthum gyfamod â hwy i roi iddynt wlad Canaan, lle buont yn byw fel estroniaid;
5. a phan glywais riddfan yr Israeliaid oedd dan orthrwm yr Eifftiaid, cofiais fy nghyfamod.
6. Felly, dywed wrth yr Israeliaid, ‘Myfi yw'r ARGLWYDD, ac fe'ch rhyddhaf o orthrwm yr Eifftiaid a'ch gwaredu o'ch caethiwed, a'ch achub â braich estynedig ac â gweithredoedd nerthol o farn.
7. Fe'ch cymeraf yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw i chwi; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch rhyddhaodd o orthrwm yr Eifftiaid.
8. Fe'ch dygaf i'r wlad yr addewais ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob, ac fe'i rhoddaf yn eiddo i chwi. Myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
9. Mynegodd Moses hyn wrth bobl Israel, ond nid oeddent hwy'n barod i wrando arno oherwydd eu digalondid a'u caethiwed caled.
10. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
11. “Dos i ddweud wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.”
12. Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Nid yw pobl Israel wedi gwrando arnaf; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf, a minnau â nam ar fy lleferydd?”
13. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, a rhoi gorchymyn iddynt ynglŷn â phobl Israel a Pharo brenin yr Aifft, er mwyn rhyddhau'r Israeliaid o wlad yr Aifft.
14. Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwythau eu tadau. Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi; dyna deuluoedd Reuben.
15. Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar a Saul, mab i wraig o Ganaan; dyna deuluoedd Simeon.
16. Dyma enwau meibion Lefi yn ôl eu cenedlaethau: Gerson, Cohath a Merari; bu Lefi fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd.
17. Meibion Gerson: Libni a Simei, yn ôl eu teuluoedd.
18. Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel; bu Cohath fyw am gant tri deg a thair o flynyddoedd.
19. Meibion Merari: Mahli a Musi; dyna deuluoedd Lefi yn ôl eu cenedlaethau.
20. Priododd Amram â Jochebed, chwaer ei dad, ac esgorodd hi ar Aaron a Moses; bu Amram fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd.
21. Meibion Ishar: Cora, Neffeg a Sicri.
22. Meibion Ussiel: Misael, Elsaffan a Sithri.
23. Priododd Aaron ag Eliseba, merch i Aminadab a chwaer i Nahason; esgorodd hi ar Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
24. Meibion Cora: Assir, Elcana, ac Abiasaff; dyna deuluoedd y Corahiaid.
25. Priododd Eleasar, mab Aaron, ag un o ferched Putiel, ac esgorodd hi ar Phineas. Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwyth y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
26. Dyma'r Aaron a'r Moses y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, “Dygwch yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.”
27. Dyma hefyd y Moses a'r Aaron a ddywedodd wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'r Aifft.
28. Pan lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwlad yr Aifft,
29. dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD; dywed wrth Pharo brenin yr Aifft y cyfan yr wyf yn ei ddweud wrthyt.”
30. Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Y mae nam ar fy lleferydd; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf?”