Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Cân Moses

1. Yna canodd Moses a'r Israeliaid y gân hon i'r ARGLWYDD:“Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.

2. Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,ac ef yw'r un a'm hachubodd;ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf,Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.

3. Y mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr;yr ARGLWYDD yw ei enw.

4. Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r môr,a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y Môr Coch.

5. Daeth llifogydd i'w gorchuddio,a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.

6. Y mae nerth dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, yn ogoneddus;dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, a ddryllia'r gelyn.

7. Trwy dy fawrhydi aruchel darostyngaist dy wrthwynebwyr;gollyngaist dy ddigofaint, ac fe'u difaodd hwy fel sofl.

8. Trwy chwythiad dy ffroenau casglwyd y dyfroedd ynghyd;safodd y ffrydiau yn bentwr,a cheulodd y dyfnderoedd yng nghanol y môr.

9. Dywedodd y gelyn, ‘Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd;rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo;tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio â'm llaw.’

10. Ond pan chwythaist ti â'th anadl, gorchuddiodd y môr hwy,nes iddynt suddo fel plwm i'r dyfroedd mawrion.

11. Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD?Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd,yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau?

12. Pan estynnaist dy ddeheulaw,llyncodd y ddaear hwy.

13. “Yn dy drugaredd, arweini'r bobl a waredaist,a thrwy dy nerth eu tywys i'th drigfan sanctaidd.

14. Fe glyw y bobloedd, a dychryn,a daw gwewyr ar drigolion Philistia.

15. Bydd penaethiaid Edom yn brawychu,ac arweinwyr Moab yn arswydo,a holl drigolion Canaan yn toddi.

16. Daw ofn a braw arnynt;oherwydd mawredd dy fraich byddant mor llonydd â charreg,nes i'th bobl di, O ARGLWYDD, fynd heibio,nes i'r bobl a brynaist ti fynd heibio.

17. Fe'u dygi i mewn a'u plannu ar y mynydd sy'n eiddo i ti,y man, O ARGLWYDD, a wnei yn drigfan i ti dy hun,y cysegr, O ARGLWYDD, a godi â'th ddwylo.

18. Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu byth bythoedd.”

Cân Miriam

19. Pan aeth meirch Pharo a'i gerbydau a'i farchogion i mewn i'r môr, gwnaeth yr ARGLWYDD i ddyfroedd y môr ddychwelyd drostynt; ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych.

20. Yna cymerodd Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, dympan yn ei llaw, ac aeth yr holl wragedd allan ar ei hôl a dawnsio gyda thympanau.

21. Canodd Miriam gân iddynt:“Canwch i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.”

Iacháu'r Dŵr Chwerw

22. Yna arweiniodd Moses yr Israeliaid oddi wrth y Môr Coch, ac aethant ymaith i anialwch Sur; buont yn teithio'r anialwch am dridiau heb gael dŵr.

23. Pan ddaethant i Mara, ni allent yfed y dŵr yno am ei fod yn chwerw; dyna pam y galwyd y lle yn Mara.

24. Dechreuodd y bobl rwgnach yn erbyn Moses, a gofyn, “Beth ydym i'w yfed?”

25. Galwodd yntau ar yr ARGLWYDD, a dangosodd yr ARGLWYDD iddo bren; pan daflodd Moses y pren i'r dŵr, trodd y dŵr yn felys.Yno y sefydlodd yr ARGLWYDD ddeddf a chyfraith, ac yno hefyd y profodd hwy,

26. a dweud, “Os gwrandewi'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yn ei olwg, gan wrando ar ei orchmynion a chadw ei holl ddeddfau, ni rof arnat yr un o'r clefydau a rois ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n dy iacháu.”

27. Yna daethant i Elim, lle'r oedd deuddeg ffynnon ddŵr, a deg a thrigain o balmwydd; a buont yn gwersyllu yno wrth y dŵr.