Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Bydd Besalel, Aholïab, a phob un dawnus y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi iddo'r gallu a'r medr i wneud pob math o waith yng ngwasanaeth y cysegr, yn gweithio yn unol â'r cyfan y mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddynt.”

Haelioni'r Bobl

2. Galwodd Moses Besalel, Aholïab, a phob un dawnus yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhoi iddo'r gallu, ac a oedd yn fodlon dod i wneud y gwaith,

3. a derbyniasant gan Moses bob offrwm a roesai pobl Israel o'u gwirfodd ar gyfer y gwaith yng ngwasanaeth y cysegr. Yr oedd y bobl yn dal i ddod ag offrwm ato o'u gwirfodd bob bore;

4. a bu'n rhaid i bob un dawnus a oedd yn gwneud y gwaith yn y cysegr adael ei orchwyl,

5. a dweud wrth Moses, “Y mae'r bobl yn dod â mwy na digon ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD inni ei wneud.”

6. Felly rhoddodd Moses orchymyn, a chyhoeddwyd drwy'r gwersyll nad oedd na gŵr na gwraig i gyfrannu dim rhagor at offrwm y cysegr. Yna peidiodd y bobl â dod â rhagor,

7. oherwydd yr oedd y deunydd oedd ganddynt yn fwy na digon ar gyfer yr holl waith.

Gwneuthuriad y Tabernacl

8. Yr oedd yr holl rai medrus ymhlith y gweithwyr wedi gwneud y tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu, ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arnynt.

9. Yr oedd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

10. Cydiodd Besalel bum llen wrth ei gilydd, a'r pum llen arall hefyd wrth ei gilydd.

11. Gwnaeth ddolennau glas ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

12. Gwnaeth hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, a'r dolennau gyferbyn â'i gilydd.

13. Gwnaeth hefyd hanner cant o fachau aur, a chydiodd y llenni wrth ei gilydd â'r bachau, er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.

14. Gwnaeth hefyd un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.

15. Yr oedd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

16. Cydiodd hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen,

17. a gwnaeth hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

18. Gwnaeth hanner cant o fachau pres i gydio'r babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith,

19. a gwnaeth orchudd i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, ac o grwyn morfuchod.

20. Gwnaeth hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia,

21. pob un yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,

22. a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwnaeth hyn i holl fframiau'r tabernacl.

23. Dyma drefn fframiau'r tabernacl: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,

24. a deugain troed arian dan yr ugain ffrâm, dau droed i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon.

25. Ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, gwnaeth ugain ffrâm

26. a'u deugain troed arian, dau droed dan bob ffrâm.

27. Yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwnaeth chwe ffrâm,

28. a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,

29. wedi eu cysylltu'n ddwbl yn y pen a'r gwaelod â bach; yr oedd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.

30. Yr oedd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.

31. Gwnaeth hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,

32. a phump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.

33. Gwnaeth i'r bar a oedd ar ganol y fframiau ymestyn o un pen i'r llall.

34. Goreurodd y fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt, a'u goreuro hwythau.

35. Gwnaeth orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno.

36. Gwnaeth ar ei gyfer bedair colofn o goed acasia, a'u goreuro; yr oedd eu bachau o aur, a lluniodd ar eu cyfer bedwar troed arian.

37. Gwnaeth ar gyfer drws y babell len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio;

38. gwnaeth hefyd bum colofn gyda bachau. Goreurodd ben uchaf y colofnau; ac aur oedd eu cylchau, ond pres oedd eu pum troed.