Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Rhoddion ar gyfer y Cysegr

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd.

3. Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;

4. sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,

5. crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,

6. olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;

7. meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.

8. Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.

9. Yr ydych i'w wneud yn unol â'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.

Arch y Cyfamod

10. “Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.

11. Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.

12. Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.

13. Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,

14. a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.

15. Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;

16. yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.

17. Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;

18. gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.

19. Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.

20. Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.

21. Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti.

22. Yno byddaf yn cyfarfod â thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.

Bwrdd y Bara Gosod

23. “Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,

24. a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.

25. Gwna ffrâm o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffrâm.

26. Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.

27. Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffrâm yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.

28. Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.

29. Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.

30. Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.

Y Canhwyllbren

31. “Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith.

32. Bydd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.

33. Ar un gainc bydd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyma fydd ar y chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.

34. Ar y canhwyllbren ei hun, bydd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt,

35. a bydd un o'r cnapiau dan bob pâr o'r chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.

36. Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.

37. Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas.

38. Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur.

39. Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur.

40. Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn ôl y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.