Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Agor a Chysegru'r Tabernacl

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.

3. Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio â llen.

4. Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau.

5. Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl.

6. Rho allor y poethoffrwm o flaen drws y tabernacl, pabell y cyfarfod,

7. a gosod y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi.

8. Gosod y cyntedd o'i amgylch, a llen ar gyfer porth y cyntedd.

9. Yna cymer olew'r ennaint, ac eneinio'r tabernacl a'r cyfan sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl ddodrefn; a bydd yn gysegredig.

10. Eneinia hefyd allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a chysegra'r allor; a bydd yr allor yn gysegredig iawn.

11. Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi.

12. Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr,

13. a gwisg Aaron â'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad.

14. Tyrd â'i feibion hefyd, a'u gwisgo â'r siacedau;

15. eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau.”

16. Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo;

17. ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl.

18. Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau.

19. Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

20. Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni.

21. Yna daeth â'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

22. Rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod, ar ochr ogleddol y tabernacl, y tu allan i'r gorchudd,

23. a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

24. Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl,

25. a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

26. Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd,

27. ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

28. Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl,

29. a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

30. Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddŵr,

31. er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.

32. Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesáu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

33. Cododd gyntedd o amgylch y tabernacl a'r allor, a rhoddodd y gorchudd dros borth y cyntedd. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

Y Cwmwl dros Babell y Cyfarfod

34. Yna gorchuddiodd cwmwl babell y cyfarfod, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.

35. Ni allai Moses fynd i mewn i babell y cyfarfod am fod y cwmwl yn ei gorchuddio, ac am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.

36. Pan godai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, fe gychwynnai pobl Israel ar eu taith;

37. ond os na chodai'r cwmwl ni chychwynnent.

38. Ar hyd y daith yr oedd holl dŷ Israel yn gallu gweld cwmwl yr ARGLWYDD uwchben y tabernacl yn ystod y dydd, a thân uwch ei ben yn ystod y nos.