1. Gwnaethant wisgoedd cywrain o sidan glas, porffor ac ysgarlad ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr; gwnaethant y gwisgoedd cysegredig i Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
2. Gwnaeth yr effod o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
3. Curodd yr aur yn ddolennau tenau a'u torri'n stribedi i'w plethu'n gywrain i mewn i'r sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac i'r lliain main.
4. Gwnaethant ar gyfer yr effod ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr.
5. Yr oedd y gwregys arni wedi ei wnïo'n gywrain, ac o'r un deunydd â'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu; felly'r oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6. Cymerasant feini onyx a'u trin, a'u gosod mewn edafwaith o aur, a naddu arnynt enwau meibion Israel, fel y bydd gemydd yn naddu sêl.
7. Gosododd hwy ar ysgwyddau'r effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
8. Gwnaeth y ddwyfronneg o grefftwaith cywrain; fe'i gwnaeth, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
9. Yr oedd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
10. Gosodasant ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
11. yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
12. yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
13. yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; yr oeddent i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
14. Yr oedd deuddeg maen wedi eu henwi ar ôl meibion Israel; yr oedd pob un fel sêl ag enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
15. Gwnaethant ar gyfer y ddwyfronneg gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,
16. a hefyd ddau edafwaith aur, a dau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.
17. Rhoddwyd y ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,
18. a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.
19. Yna gwnaethant ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod.
20. Gwnaethant hefyd ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod, ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys.
21. Rhwymasant fachau'r ddwyfronneg wrth fachau'r effod â llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22. Gwnaeth fantell yr effod i gyd yn frodwaith o sidan glas,
23. a thwll yn ei chanol, gyda gwnïad o'i amgylch, fel a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.
24. Gwnaethant o amgylch godre'r fantell bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain wedi ei nyddu.
25. Gwnaethant hefyd glychau o aur pur,
26. a'u gosod rhwng y pomgranadau o amgylch godre'r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
27. Gwnaethant siacedau wedi eu gwau o liain main ar gyfer Aaron a'i feibion;
28. gwnaethant hefyd benwisg a chapiau, llodrau
29. a gwregys, y cwbl o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad wedi ei frodio; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30. Gwnaethant blât y goron gysegredig o aur pur, ac argraffu arno, fel ar sêl, “Sanctaidd i'r ARGLWYDD”;
31. a chlymwyd ef ar flaen y benwisg â llinyn glas; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
32. Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; ac yr oedd pobl Israel wedi gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
33. Daethant â'r tabernacl at Moses, sef y babell a'i holl lestri, y bachau, y fframiau, y barrau, y colofnau, y traed;
34. y to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod, a'r gorchudd;
35. arch y dystiolaeth a'i pholion a'r drugareddfa;
36. y bwrdd a'i holl lestri, a'r bara gosod;
37. y canhwyllbren o aur pur, ei lampau wedi eu goleuo, ynghyd â'u holl lestri, a'r olew ar gyfer y golau;
38. yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl;
39. yr allor bres, a'r rhwyll bres ar ei chyfer, a'i pholion a'i holl lestri; y noe a'i throed;
40. llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed; gorchudd porth y cyntedd, ei raffau a'i hoelion, a'r holl lestri ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;
41. y gwisgoedd wedi eu gwnïo'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig Aaron a'i feibion, iddynt wasanaethu fel offeiriaid.
42. Yr oedd pobl Israel wedi gwneud yr holl waith yn union fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
43. Gwelodd Moses eu bod wedi gwneud yr holl waith fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, a bendithiodd Moses hwy.