Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd,

2. Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o'r bobl, bendithiwch yr Arglwydd.

3. Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i'r Arglwydd; canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel.

4. O Arglwydd, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a'r nefoedd a ddiferasant, a'r cymylau a ddefnynasant ddwfr.

5. Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd, sef y Sinai hwnnw, o flaen Arglwydd Dduw Israel.

6. Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a'r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion.

7. Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel.

8. Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel?

9. Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl. Bendithiwch yr Arglwydd.

10. Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch.

11. Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i'r pyrth.

12. Deffro, deffro, Debora; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam.

13. Yna y gwnaeth i'r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn.

14. O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon.

15. A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i'r dyffryn. Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

16. Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

17. Gilead a drigodd o'r tu hwnt i'r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau.

18. Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.

19. A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian.

20. O'r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.

21. Afon Cison a'u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.

22. Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.

23. Melltigwch Meros, eb angel yr Arglwydd, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i'r Arglwydd, yn gynhorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.

24. Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.

25. Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn.

26. Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a'i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.

27. Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw.

28. Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy'r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau?

29. Ei harglwyddesau doethion a'i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun,

30. Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gŵr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symudliw o wniadwaith o'r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr?

31. Felly y darfyddo am dy holl elynion, O Arglwydd: a bydded y rhai a'i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.