Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Samson a aeth i waered i Timnath; ac a ganfu wraig yn Timnath, o ferched y Philistiaid.

2. Ac efe a ddaeth i fyny, ac a fynegodd i'w dad ac i'w fam, ac a ddywedodd, Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid: cymerwch yn awr honno yn wraig i mi.

3. Yna y dywedodd ei dad a'i fam wrtho, Onid oes ymysg merched dy frodyr, nac ymysg fy holl bobl, wraig, pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o'r Philistiaid dienwaededig? A dywedodd Samson wrth ei dad, Cymer hi i mi; canys y mae hi wrth fy modd i.

4. Ond ni wyddai ei dad ef na'i fam mai oddi wrth yr Arglwydd yr oedd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel.

5. Yna Samson a aeth i waered a'i dad a'i fam, i Timnath; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath: ac wele genau llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef.

6. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth yn rymus arno ef; ac efe a holltodd y llew fel yr holltid myn, ac nid oedd dim yn ei law ef: ond ni fynegodd efe i'w dad nac i'w fam yr hyn a wnaethai.

7. Ac efe a aeth i waered, ac a ymddiddanodd â'r wraig; ac yr oedd hi wrth fodd Samson.

8. Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i'w chymryd hi; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew: ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew.

9. Ac efe a'i cymerth yn ei law, ac a gerddodd dan fwyta; ac a ddaeth at ei dad a'i fam, ac a roddodd iddynt; a hwy a fwytasant: ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorff y llew y cymerasai efe y mêl.

10. Felly ei dad ef a aeth i waered at y wraig; a Samson a wnaeth yno wledd: canys felly y gwnâi y gwŷr ieuainc.

11. A phan welsant hwy ef, yna y cymerasant ddeg ar hugain o gyfeillion i fod gydag ef.

12. A Samson a ddywedodd wrthynt, Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr: os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wledd, ac a'i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o ddillad:

13. Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi; yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o wisgoedd. Hwythau a ddywedasant wrtho, Traetha dy ddychymyg, fel y clywom ef.

14. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Allan o'r bwytawr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felystra. Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod.

15. Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i'n tlodi ni y'n gwahoddasoch? onid felly y mae?

16. A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i'm tad nac i'm mam: ac a'i mynegwn i ti?

17. A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wledd: ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi, canys yr oedd hi yn ei flino ef: a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl.

18. A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd, cyn machludo'r haul, Beth sydd felysach na mêl? a pheth gryfach na llew? Dywedodd yntau wrthynt, Oni buasai i chwi aredig â'm hanner i, ni chawsech allan fy nychymyg.

19. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; ac efe a aeth i waered i Ascalon, ac a drawodd ohonynt ddeg ar hugain, ac a gymerth eu hysbail, ac a roddodd y parau dillad i'r rhai a fynegasant y dychymyg: a'i ddicllonedd ef a lidiodd, ac efe a aeth i fyny i dŷ ei dad.

20. A rhoddwyd gwraig Samson i'w gyfaill ef ei hun, yr hwn a gymerasai efe yn gyfaill.