Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd.

2. Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a'i enw ef oedd Manoa; a'i wraig ef oedd amhlantadwy, heb esgor.

3. Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd i'r wraig, ac a ddywedodd wrthi, Wele, yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb esgor: ond ti a feichiogi, ac a esgori ar fab.

4. Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan.

5. Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen o'r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid.

6. Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i'w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr Duw a ddaeth ataf fi; a'i bryd ef oedd fel pryd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw.

7. Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen, o'r groth hyd ddydd ei farwolaeth.

8. Yna Manoa a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i'r bachgen a enir.

9. A Duw a wrandawodd ar lef Manoa: ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi.

10. A'r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i'w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall.

11. A Manoa a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig? Dywedodd yntau, Ie, myfi.

12. A dywedodd Manoa, Deled yn awr dy eiriau i ben. Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef?

13. Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi.

14. Na fwytaed o ddim a ddêl allan o'r winwydden, nac yfed win na diod gadarn, ac na fwytaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi.

15. A dywedodd Manoa wrth angel yr Arglwydd, Gad, atolwg, i ni dy atal, tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di.

16. Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawn o'th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwna ef i'r Arglwydd. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe.

17. A Manoa a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Beth yw dy enw, fel y'th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben?

18. Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Paham yr ymofynni am fy enw, gan ei fod yn rhyfeddol?

19. Felly Manoa a gymerth fyn gafr, a bwyd‐offrwm, ac a'i hoffrymodd ar y graig i'r Arglwydd. A'r angel a wnaeth yn rhyfedd: a Manoa a'i wraig oedd yn edrych.

20. Canys, pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua'r nefoedd, yna angel yr Arglwydd a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a'i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau.

21. (Ond ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoa, nac i'w wraig.) Yna y gwybu Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe.

22. A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys gwelsom Dduw.

23. Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.

24. A'r wraig a ymddûg fab, ac a alwodd ei enw ef Samson. A'r bachgen a gynyddodd; a'r Arglwydd a'i bendithiodd ef.

25. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddechreuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyll Dan, rhwng Sora ac Estaol.