Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi talm o ddyddiau, yn amser cynhaeaf y gwenith, Samson a aeth i ymweled â'i wraig â myn gafr; ac a ddywedodd, Mi a af i mewn at fy ngwraig i'r ystafell. Ond ni chaniatâi ei thad hi iddo ef fyned i mewn.

2. A'i thad a lefarodd, gan ddywedyd, Tybiaswn i ti ei chasáu hi; am hynny y rhoddais hi i'th gyfaill di: onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi? bydded honno i ti, atolwg, yn ei lle hi.

3. A Samson a ddywedodd wrthynt, Difeiach ydwyf y waith hon na'r Philistiaid, er i mi wneuthur niwed iddynt.

4. A Samson a aeth ac a ddaliodd dri chant o lwynogod; ac a gymerth ffaglau, ac a drodd gynffon at gynffon, ac a osododd un ffagl rhwng dwy gynffon yn y canol.

5. Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau, ac a'u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid; ac a losgodd hyd yn oed y dasau, a'r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd, a'r olewydd.

6. Yna y Philistiaid a ddywedasant, Pwy a wnaeth hyn? Hwythau a ddywedasant, Samson daw y Timniad; am iddo ddwyn ei wraig ef, a'i rhoddi i'w gyfaill ef. A'r Philistiaid a aethant i fyny, ac a'i llosgasant hi a'i thad â thân.

7. A dywedodd Samson wrthynt, Er i chwi wneuthur fel hyn, eto mi a ymddialaf arnoch chwi; ac wedi hynny y peidiaf.

8. Ac efe a'u trawodd hwynt glun a morddwyd â lladdfa fawr: ac efe a aeth i waered, ac a arhosodd yng nghopa craig Etam.

9. Yna y Philistiaid a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Jwda, ac a ymdaenasant yn Lehi.

10. A gwŷr Jwda a ddywedasant, Paham y daethoch i fyny i'n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y daethom i fyny, i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau.

11. Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau.

12. Dywedasant hwythau wrtho, I'th rwymo di y daethom i waered, ac i'th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain.

13. Hwythau a'i hatebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y'th rwymwn di, ac y'th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni'th laddwn di. A rhwymasant ef â dwy raff newydd, ac a'i dygasant ef i fyny o'r graig.

14. A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; a'r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a'r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef.

15. Ac efe a gafodd ên asyn ir; ac a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr.

16. A Samson a ddywedodd, A gên asyn, pentwr ar bentwr; â gên asyn y lleddais fil o wŷr.

17. A phan orffennodd efe lefaru, yna efe a daflodd yr ên o'i law, ac a alwodd y lle hwnnw Ramath‐lehi.

18. Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig?

19. Ond Duw a holltodd y cilddant oedd yn yr ên, fel y daeth allan ddwfr ohono; ac efe a yfodd, a'i ysbryd a ddychwelodd, ac efe a adfywiodd: am hynny y galwodd efe ei henw En‐haccore, yr hon sydd yn Lehi hyd y dydd hwn.

20. Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid ugain mlynedd.