Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ar ôl Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Pua, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim.

2. Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir.

3. Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain.

4. Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynnod; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt, y rhai a elwid Hafoth‐Jair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yng ngwlad Gilead.

5. A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon.

6. A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr Arglwydd, ac ni wasanaethasant ef.

7. A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; ac efe a'u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon.

8. A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead.

9. A meibion Ammon a aethant trwy'r Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn tŷ Effraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel.

10. A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw, a gwasanaethu Baalim hefyd.

11. A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel, Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rhag y Philistiaid?

12. Y Sidoniaid hefyd, a'r Amaleciaid, a'r Maoniaid, a'ch gorthrymasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a'ch gwaredais chwi o'u llaw hwynt.

13. Eto chwi a'm gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach.

14. Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra.

15. A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Pechasom; gwna di i ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn.

16. A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o'u mysg, ac a wasanaethasant yr Arglwydd: a'i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel.

17. Yna meibion Ammon a ymgynullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispa.

18. Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd, Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead.