Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yr oedd gŵr o fynydd Effraim, a'i enw Mica.

2. Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a'r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a'i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr Arglwydd.

3. A phan roddodd efe y mil a'r can sicl arian adref i'w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gysegru y cysegraswn yr arian i'r Arglwydd o'm llaw, i'm mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a'i rhoddaf eilwaith i ti.

4. Eto efe a dalodd yr arian i'w fam. A'i fam a gymerth ddau can sicl o arian, ac a'u rhoddodd i'r toddydd; ac efe a'u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: a hwy a fuant yn nhŷ Mica.

5. A chan y gŵr hwn Mica yr oedd tŷ duwiau; ac efe a wnaeth effod, a theraffim, ac a gysegrodd un o'i feibion i fod yn offeiriad iddo.

6. Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; ond pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

7. Ac yr oedd gŵr ieuanc o Bethlehem Jwda, o dylwyth Jwda, a Lefiad oedd efe; ac efe a ymdeithiai yno.

8. A'r gŵr a aeth allan o'r ddinas o Bethlehem Jwda, i drigo pa le bynnag y caffai le: ac efe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica, yn ei ymdaith.

9. A Mica a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le.

10. A Mica a ddywedodd wrtho. Trig gyda mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn, a phâr o ddillad, a'th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn.

11. A'r Lefiad a fu fodlon i aros gyda'r gŵr; a'r gŵr ieuanc oedd iddo fel un o'i feibion.

12. A Mica a urddodd y Lefiad; a'r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo, ac a fu yn nhŷ Mica.

13. Yna y dywedodd Mica, Yn awr y gwn y gwna yr Arglwydd ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.