1. Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron: Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
2. Bu farw Nadab ac Abihu yn ddi-blant, a'u tad eto'n fyw; felly daeth Eleasar ac Ithamar yn offeiriaid.
3. Gyda chymorth Sadoc o feibion Eleasar ac Ahimelech o feibion Ithamar, gosododd Dafydd hwy yn eu swyddi ar gyfer eu gwasanaeth.
4. Gan fod mwy o ddynion blaenllaw ymysg meibion Eleasar na meibion Ithamar, rhannwyd hwy fel hyn: o feibion Eleasar, un ar bymtheg o bennau-teuluoedd, ac o feibion Ithamar, wyth.
5. Dosbarthwyd y naill a'r llall trwy goelbren, gan fod swyddogion y cysegr a swyddogion Duw o blith meibion Eleasar a meibion Ithamar.
6. Cofrestrwyd eu henwau gan Semaia fab Nathaneel, ysgrifennydd o lwyth Lefi, yng ngŵydd y brenin, y swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Ahimelech fab Abiathar, a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dewiswyd un teulu o feibion Eleasar ac un o feibion Ithamar.
7. Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Jehoiarib, yr ail ar Jedaia,
8. y trydydd ar Harim, y pedwerydd ar Seorim,
9. y pumed ar Malcheia, y chweched ar Mijamin,
10. y seithfed ar Haccos, yr wythfed ar Abeia,
11. y nawfed ar Jesua, y degfed ar Sechaneia,
12. yr unfed ar ddeg ar Eliasib, y deuddegfed ar Jacim,
13. y trydydd ar ddeg ar Huppa, y pedwerydd ar ddeg ar Jesebeab,
14. y pymthegfed ar Bilga, yr unfed ar bymtheg ar Immer,
15. yr ail ar bymtheg ar Hesir, y deunawfed ar Affses,
16. y pedwerydd ar bymtheg ar Pethaheia, yr ugeinfed ar Jehesecel,
17. yr unfed ar hugain ar Jachin, yr ail ar hugain ar Gamul,
18. y trydydd ar hugain ar Delaia, y pedwerydd ar hugain ar Maaseia.
19. Swyddogaeth y rhain yn y gwasanaeth oedd dod i mewn i dŷ Dduw yn ôl y drefn a osodwyd gan Aaron eu tad, fel y gorchmynnwyd iddo gan ARGLWYDD Dduw Israel.
20. Dyma weddill meibion Lefi. O feibion Amram: Subael; o feibion Subael: Jehdeia;
21. o Rehabia a'i feibion: Issia yn gyntaf;
22. o'r Ishariaid: Selomoth; o feibion Selomoth: Jahath.
23. Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd.
24. O feibion Ussiel: Micha; o feibion Micha: Samir.
25. Brawd Micha oedd Issia. O feibion Issia: Sechareia.
26. Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Jaasei: Beno.
27. Meibion Merari trwy Jaaseia: Beno, Soham, Saccur ac Ibri.
28. O Mahli: Eleasar, a oedd yn ddi-blant.
29. O Cis, meibion Cis: Jerahmeel.
30. Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth. Y rhain oedd y Lefiaid yn ôl eu teuluoedd.
31. Ac yn union fel y gwnaeth eu brodyr, meibion Aaron, fe fwriodd yr hen a'r ifanc goelbrennau yng ngŵydd y Brenin Dafydd, Sadoc, Ahimelech a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid.