Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 8 beibl.net 2015 (BNET)

Dyn yn dioddef o'r gwahanglwyf

1. Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd.

2. Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o'i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”

3. Dyma Iesu'n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A'r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach!

4. A dyma Iesu'n dweud wrtho, “Gwna'n siŵr dy fod ti'n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad, a chyflwyno'r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”

Ffydd y Swyddog Milwrol Rhufeinig

5. Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i'w helpu.

6. “Arglwydd,” meddai, “mae ngwas i gartre, yn gorwedd yn ei wely wedi ei barlysu. Mae'n dioddef yn ofnadwy.”

7. Atebodd Iesu, “Dof i'w iacháu.”

8. Ond meddai'r swyddog wrtho, “Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu.

9. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”

10. Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!

11. Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o'r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu.

12. Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i'r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”

13. Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei yr hyn wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna'n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.

Iesu'n iacháu llawer

14. Dyma Iesu'n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel.

15. Cyffyrddodd Iesu ei llaw hi a diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddo.

16. Pan oedd hi'n dechrau nosi dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl.

17. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Cymerodd ein gwendidau arno'i hun, a chario ein hafiechydon i ffwrdd.”

Y gost o ddilyn Iesu

18. Pan welodd Iesu'r tyrfaoedd o bobl oedd o'i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw'r llyn.

19. Yna dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd.”

20. Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”

21. Dyma un arall o'i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”

22. Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw.”

Iesu'n tawelu'r storm

23. Felly i ffwrdd â Iesu i'r cwch, a'i ddisgyblion ar ei ôl.

24. Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu'n drwm drwy'r cwbl!

25. Dyma'r disgyblion yn mynd ato mewn panig a'i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni'n mynd i foddi!”

26. “Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae'ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.

27. Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth ydyn ni i'w wneud o'r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r tonnau yn ufuddhau iddo!”

Iacháu dau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid

28. Ar ôl iddo groesi'r llyn i ardal y Gadareniaid, dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio'r ffordd honno.

29. Dyma nhw'n gweiddi'n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i'n poenydio ni cyn i'r amser pan fydd hynny'n digwydd ddod?”

30. Roedd cenfaint fawr o foch yn pori draw oddi wrthyn nhw,

31. a dyma'r cythreuliaid yn pledio arno, “Gad i ni fynd i mewn i'r genfaint o foch acw os wyt ti'n mynd i'n bwrw ni allan.”

32. “Ewch!” meddai Iesu. Felly allan â nhw o'r dyn ac i mewn i'r moch. A'r peth nesa, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth a boddi yn y llyn.

33. Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd i'r dre i adrodd y stori, a dweud am bopeth oedd wedi digwydd i'r dynion oedd wedi bod yng ngafael cythreuliaid.

34. Yna dyma pawb yn dod allan o'r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw'n pwyso arno i adael eu hardal.