Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 25 beibl.net 2015 (BNET)

Stori y deg morwyn briodas

1. “Bryd hynny, pan fydd yr Un nefol yn dod i deyrnasu, bydd yr un fath â deg morwyn briodas yn mynd allan gyda lampau yn y nos i gyfarfod â'r priodfab.

2. Roedd pump ohonyn nhw'n ddwl, a phump yn gall.

3. Aeth y rhai dwl allan heb olew sbâr.

4. Ond roedd y lleill yn ddigon call i fynd ag olew sbâr gyda nhw.

5. Roedd y priodfab yn hir iawn yn cyrraedd, ac felly dyma nhw i gyd yn dechrau pendwmpian a disgyn i gysgu.

6. “Am hanner nos dyma rhywun yn gweiddi'n uchel: ‘Mae'r priodfab wedi cyrraedd! Dewch allan i'w gyfarfod!’

7. “Dyma'r merched yn deffro ac yn goleuo eu lampau eto.

8. Ond meddai'r morynion dwl wrth y rhai call, ‘Rhowch beth o'ch olew chi i ni! Mae'n lampau ni'n diffodd!’

9. “‘Na wir,’ meddai'r lleill, ‘fydd gan neb ddigon wedyn. Rhaid i chi fynd i brynu peth yn rhywle.’

10. “Ond tra oedden nhw allan yn prynu mwy o olew, dyma'r priodfab yn cyrraedd. Aeth y morynion oedd yn barod i mewn i'r wledd briodas gydag e, a dyma'r drws yn cael ei gau.

11. “Yn nes ymlaen cyrhaeddodd y lleill yn ôl, a dyma nhw'n galw, ‘Syr! Syr! Agor y drws i ni!’

12. “Ond dyma'r priodfab yn ateb, ‘Ond dw i ddim yn eich nabod chi!’

13. “Gwyliwch eich hunain felly! Dych chi ddim yn gwybod y dyddiad na'r amser o'r dydd pan fydda i'n dod yn ôl.

Stori y talentau

14. “Pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw.

15. Rhoddodd swm arbennig yng ngofal pob un yn ôl ei allu – pum talent (hynny ydy tri deg mil o ddarnau arian) i un, dwy dalent (hynny ydy deuddeg mil) i un arall, ac un dalent (hynny ydy chwe mil) i'r llall. Wedyn aeth i ffwrdd ar ei daith.

16. Dyma'r gwas oedd wedi cael pum talent yn bwrw iddi ar unwaith i farchnata gyda'i arian, a llwyddodd i ddyblu'r swm oedd ganddo.

17. Llwyddodd yr un gyda dwy dalent i wneud yr un peth.

18. Ond y cwbl wnaeth yr un gafodd un dalent oedd gwneud twll yn y ddaear a chadw arian ei feistr yn saff ynddo.

19. “Aeth amser hir heibio, yna o'r diwedd daeth y meistr yn ôl adre a galw ei weision i roi cyfri am yr arian oedd wedi ei roi yn eu gofal nhw.

20. Dyma'r un oedd wedi derbyn y pum talent yn dod a dweud wrtho, ‘Feistr, rhoist ti dri deg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud tri deg mil arall.’

21. “‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i'n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’

22. “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn dwy dalent yn dod ac yn dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddeuddeg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud deuddeg mil arall.’

23. “‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i'n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’

24. “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod ti'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw.

25. Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian di'n saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl – mae'r cwbl yna.’

26. “Dyma'r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i'n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw?

27. Dylet ti o leia fod wedi rhoi'r arian mewn cyfri cadw yn y banc, i mi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’

28. “Cymerwch yr arian oddi arno, a'i roi i'r un cyntaf sydd â deg talent ganddo.

29. Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy, a bydd ganddyn nhw ddigonedd. Ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw!

30. Taflwch y gwas diwerth i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith!

Y defaid a'r geifr

31. “Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a'r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd.

32. Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o'i flaen, a bydd yn eu rhannu'n ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanu'r defaid a'r geifr.

33. Bydd yn rhoi'r defaid ar ei ochr dde a'r geifr ar ei ochr chwith.

34. “Dyma fydd y Brenin yn ei ddweud wrth y rhai sydd ar ei ochr dde, ‘Chi ydy'r rhai mae fy Nhad wedi eu bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Mae'r cwbl wedi ei baratoi ar eich cyfer ers i'r byd gael ei greu.

35. Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan roeddwn i'n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan roedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb;

36. chi roddodd ddillad i mi pan roeddwn i'n noeth; chi ofalodd amdana i pan roeddwn i'n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan roeddwn i yn y carchar.’

37. “Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu a rhoi rhywbeth i ti i'w fwyta, neu'n sychedig a rhoi diod i ti?

38. Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet ti'n nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet ti'n noeth?

39. Pryd welon ni ti'n sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’

40. “A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu'r person lleiaf pwysig sy'n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’

41. “Yna bydd yn dweud wrth y rhai sydd ar ei ochr chwith, ‘Dych chi wedi'ch melltithio! Ewch i ffwrdd oddi wrtho i, i'r tân tragwyddol sydd wedi ei baratoi i'r diafol a'i gythreuliaid.

42. Roesoch chi ddim byd i mi pan oeddwn i'n llwgu; roesoch chi ddim diod i mi pan oedd syched arna i;

43. ches i ddim croeso gynnoch chi pan oeddwn i'n ddieithr; roesoch chi ddim dillad i mi eu gwisgo pan oeddwn i'n noeth; a wnaethoch chi ddim gofalu amdana i pan oeddwn i'n sâl ac yn y carchar.’

44. “A byddan nhw'n gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu neu'n sychedig, neu'n nabod neb neu'n noeth neu'n sâl neu yn y carchar, a gwrthod dy helpu di?’

45. “Bydd yn ateb, ‘Credwch chi fi, beth bynnag wrthodoch chi ei wneud i helpu'r un lleiaf pwysig o'r rhain, gwrthodoch chi ei wneud i mi.’

46. “Wedyn byddan nhw'n mynd i ffwrdd i gael eu cosbi'n dragwyddol, ond bydd y rhai cyfiawn yn cael bywyd tragwyddol.”